Cynhadledd NEXUS Cymru Galwad am Bapurau
Galwad am bapurau
Bydd cyfle i chi fel myfyrwyr, gynnig symposia ar thema benodol a/neu gyflwyno papur, syniad am weithdy, poster, arddangosfa neu gyfraniad arall i’r Gynhadledd. Bydd cyfle hefyd i gyhoeddi cyfraniadau yn Nhrafodion y Gynhadledd. Yn ogystal gofynnir am enwebiadau ar gyfer prif siaradwyr.
I’r rhai sydd â diddordeb mewn cyflwyno papur ysgrifenedig, mae’r meini prawf ar gael yma, Cylchlythyr Ionawr 2019 ar gyfer Cynhadledd Nexus Cymru 2019 a hefyd mae ‘Cyfarwyddiadau i Awduron’ ar gael ar Cylchgrawn Cymru ar gyfer Dysgu ac Addysgu mewn Addysg Uwch
Isod mae’r Ffurflenni Cynnig i’w cyflwyno ar gyfer y Gynhadledd erbyn 22ain Chwefror 2019:
Y dyddiad cau ar gyfer pob cyfraniad yw dydd Gwener 22ain Chwefror 2019.
Hoffech chi gyfle i rannu’ch ymchwil?
Mae Cynhadledd NEXUS Cymru yn Gynhadledd Dysgu ac Addysgu Flynyddol PCYDDS.
Diben NEXUS yw integreiddio gwaith ymchwil sy’n seiliedig ar bynciau ac ymchwil amlddisgyblaethol gyda’r cwricwlwm, dysgu ac addysgu, a chroesawa’r gynhadledd gyflwyniadau sy’n rhannu sut mae penderfyniad ymwybodol i integreiddio ymchwil, ac addysgu wedi bod yn un llwyddiannus.
Dyma’ch cyfle i gymryd rhan ac arddangos eich gwaith ymchwil. Gallwch chi gyflwyno papur/poster/ arddangosfa, gyda chyfle i gyhoeddi’r cyfraniadau yn y Gynhadledd ac ennill credadwyaeth ymchwil. Sicrhewch eich bod chi wedi’i cyflwyno cyn y dyddiad cau ar Dydd Gwener Mawrth 2il 2018.
- Dyddiad: Gorffennaf 10fed – 12fed
- Lleoliad: Canolfan Dylan Thomas, Abertawe
Pa fudd gaf i?
- Profiad gwerthfawr o gyflwyno eich gwaith i wahanol gynulleidfaoedd y tu mewn a’r tu allan i’r Drindod Dewi Sant
- Ychwanegiad gwych at eich CV
- Cyfleoedd i rwydweithio â phobl a allai eich helpu chi i ddatblygu eich gwaith ymchwil