Yn ogystal â dathlu’r bobl ddisglair sydd wedi ymladd dros wella gwelededd a hawliau ein ffrindiau LGBT, rydym am ddefnyddio Mis Hanes LGBT fel cyfle i alw arnoch i fynd i’r gad.
Mae llawer o ffordd ar ôl o hyd cyn ennill cydraddoldeb. Yn arolwg cenedlaethol LGBT 2017, meddai dros ddwy ran o dair o’r atebwyr LGBT eu bod nhw’n osgoi dal dwylo gyda’u partneriaid o’r un rhyw mewn mannau cyhoeddus rhag ofn iddynt achosi eraill i ymateb mewn ffordd negyddol. Roedd o leiaf dwy ran o bump o’r atebwyr wedi cael profiad o aflonyddu geiriol neu o drais corfforol am eu bod nhw’n LGBT. Hefyd, ni chafodd naw allan o ddeg o’r digwyddiadau hyn eu cofnodi oherwydd ‘mae hyn yn digwydd drwy’r amser’.
Mae’r adroddiadau hyn a phrofiadau personol cymaint o unigolion eraill yn dangos yn glir na ddylwn fod yn hunanfodlon yn ein hymdrechion i ennill cydraddoldeb. Yn Y Drindod Dewi Sant, rydym wedi ymrwymo’n hunain i wneud y Brifysgol a’u chymunedau ehangach yn fannau diogel, sy’n derbyn pawb ac sy’n oddefgar, gan gofleidio amrywiaeth ar bob cyfle. Rydym yn credu’n gryf na ddylai rhywioldeb na hunaniaeth rywiol unigolyn fyth fod yn rhwystr i lwyddiant a hapusrwydd, ac mae angen pawb arnom, p’un ai’n LGBT neu beidio – i fod yn weithredol wrth hyrwyddo cydraddoldeb a derbyniad.
Dyma rai ffyrdd y gallwch gefnogi cymunedau LGBT:
- Tynnwch sylw at ymddygiad cas, negyddol ac ymosodol
Mae pobl LGBT yn wynebu gwahaniaethu, bwlio ac aflonyddu bob dydd, ar y campws, yn y gweithle, neu ar y strydoedd. Nid yw’r ymddygiad hwn yn dderbyniol, ac mae’n bwysig eich bod chi, fel ffrind i’r gymuned, yn tynnu sylw at unrhyw ymddygiad cas ac ymosodol yr ydych yn dod ar ei draws.
Yn y byd sydd ohoni, mae bod yn ddistaw ac yn oddefol dim ond yn bytholi anghydraddoldebau. Mae angen i ni annog ein gilydd i fod yn wyliedyddion gweithredol. Hyd yn oed os ydy hynny’n golygu mynd â ffrind i’r naill ochr ac esbonio pam mae rhywbeth a ddywedwyd ganddo yn ymosodol, gallwch ein helpu i wneud ein cymunedau yn rhydd rhag bwlio ac aflonyddu drwy fynd i’r afael yn rhagweithiol ag anghyfiawnderau.
Yn ogystal, os ydych chithau hefyd yn teimlo eich bod yn cael eich bwlio neu eich aflonyddu, yna, dylech ofyn yn gyflym i’r Brifysgol am gyngor a chefnogaeth. Ni chaiff y math ymddygiad ei oddef. Gweler ein Polisi Aflonyddu a Bwlio a chysylltwch â’r Adran Gwasanaethau Myfyrwyr.
- Dechreuwch sgyrsiau
Weithiau, y ffordd orau o newid barnau a thybiaethau yw dechrau sgwrs. Cynorthwywch ni i finimeiddio’r stigma drwy fynd i’r afael â’r problemau yn uniongyrchol, a dewch i ni siarad am y ffyrdd y gallwn gefnogi ein gilydd.
Gall ansicrwydd ynglŷn â therminoleg a sut i ymddwyn fod yn rhwystr i ddechrau sgyrsiau am y problemau y mae pobl LGBT yn eu hwynebu, ond nid oes angen i chi deimlo fel hyn. Pam na wnewch chi adolygu eich terminoleg er mwyn i chi deimlo’n fwy hyderus?
- Addysgwch eich hun am brofiadau unigolion eraill
Mae gwneud ymdrech i addysgu eich hun am brofiadau unigolion eraill yn ffordd wych o wella eich dealltwriaeth, a darganfod sut i gefnogi yn well eich ffrindiau LGBT a’r gymuned ehangach. Mae’n bwysig dysgu yn barhaol, a gall herio eich barnau a’ch canfyddiadau chi eich hun helpu sicrhau ein bod bob amser yn gweld y llun mawr, a pheidiwch â chymryd unrhyw beth yn ganiataol.
Nid yn siŵr ble i ddechrau? Ewch i ôl copi o rifyn mis hwn o teitlau #OffTheShelf, gadewch adolygiad ac yna, ei drosglwyddo i rywun a fyddai, yn eich barn chi, efallai yn mwynhau gweld pethau o safbwynt gwahanol.
- Cymerwch ran mewn diwrnodau a digwyddiadau codi ymwybyddiaeth
Yn olaf, cadwch lygad ar ddigwyddiadau a gaiff eu cynnal ar eich campws neu yn eich cymuned leol. Mae ffordd bob amser ar gael i chi chwarae rhan, ac i ni gydweithio er mwyn creu cymdeithas sydd yn fwy teg i bawb. Cofiwch, mai drwy wneud a thrwy sefyll gyda’n gilydd ac wynebu anghyfiawnderau yn unig y gallwn ni helpu i ddylanwadu ar ac achosi newid diriaethol go iawn.