Rhaglen pedwar cam yw Dylunio Bywyd sydd ar gael i holl fyfyrwyr PCYDDS trwy weithdai, digwyddiadau ac adnoddau ar-lein ac all-lein, ac sydd wedi’i gynllunio i’ch helpu i fanteisio i’r eithaf ar eich amser yn y Brifysgol a pharatoi at eich dyfodol.
Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio offer dylunio i greu nifer o lwybrau posibl at y dyfodol ac i ddod o hyd i ffyrdd arloesol i ddylunio bywyd sy’n cyd-fynd â’ch anghenion a’ch dyheadau.
Gallwn eich helpu i:
- Weithio allan sut i ddylunio a chreu ffordd o fyw sy’n gweithio i chi, yn ystod eich amser yn y Brifysgol ac wedi hynny.
- Deall pa sgiliau sydd gennych yn barod a magu’r hyder i’w defnyddio.
- Manteisio i’r eithaf ar eich amser yn y Brifysgol i gael y profiadau y bydd arnoch eu hangen yn y dyfodol.
- Meithrin eich rhwydweithiau a’ch cyflwyno’ch hun ar-lein mewn ffyrdd a fydd yn agor drysau i chi.
- Dylunio bywyd yn y dyfodol a meddu ar yr offer i’w ail-ddylunio pryd bynnag y byddwch yn newid eich meddwl!
Byddwn yn mynd â chi drwy ein pedwar cam – darganfod a deall mwy am beth yr hoffech ei gael o’ch bywyd, archwilio ac arbrofi gyda’ch syniadau ynglŷn â beth yr hoffech ei wneud efallai yn y dyfodol, paratoi a lansio’ch gyrfa, a mynd ati i wneud hynny a’i adolygu. Ar ôl ichi wneud hyn y tro cyntaf, bydd yr offer gennych i ail-ddylunio’ch bywyd unrhyw bryd y dymunwch…
Fel myfyriwr yn PCYDDS, gallwch ddod i unrhyw un o’n digwyddiadau neu weithdai, edrych ar ein fideos a’n hadnoddau ar-lein a threulio amser gyda ni yn y stiwdio Dylunio Bywyd.